Pa'm carai'r byd na'i wagedd mwy?
Ni carai'r byd na'i wagedd mwy

(Angeu a'r bedd)
1,2,3,4;  1,3,4,5.
Pa'm carai'r byd
    na'i wagedd mwy?
Hyd angeu'n brin y deuant hwy;
  Gwell genyf garu'r
      ffrynd a ddaw,
  Yn angeu i 'maflyd yn fy llaw.

Pan byddwy'n myn'd o'r byd i maes,
Yn siglo llaw âg angeu glas;
  Pryd hyn pwy help fy enaid gwan,
  I ddringo o'r anial fyd i'r lan?

O'r dywyll wlad pan byddwy'n myn'd,
Fy Iesu fydd fy ffyddlon ffrynd,
  Pa frawd, pa chwaer,
      pa gyfaill gwell,
  Ddaw'm hebrwng i'r ardaloedd pell.

O cofia fi pan b'wy'n y bedd,
A chasgla'm llwch i'r lan mewn hedd;
  O arddel fi'n y farn a ddaw,
  A gosod fi ar dy ddeheulaw.

Ffarwell deganau gwag y byd,
A'r holl ofidiau
    sy ynddo i gyd;
  Tu ag adre'r âf
      er dw'r a thân,
  Mae swn fy mrodyr
      o fy mlaen.
William Williams 1717-91
- - - - -
Ni carai'r byd na'i wagedd mwy, Hyd angeu'n brin y deuant hwy; Gwell genni garu'r Ffrind a ddaw, Yn angeu i 'maflyd yn fy llaw.
priodolwyd hefyd i
John Dafydd 1727-1783

Tonau[MH 8888]:
  Deisyfiad (R Mills)
Derby (<1829)

gwelir:
  Beth dâl im' roi fy serch a'm bryd
  Nid oes un gwrthddrych yn y byd
  Pwy wrendy riddfan f'enaid gwan?
  Ymdeithydd wyf fi 'nawr o hyd

(Death and the grave)
 
Why shall I love the world
    or its emptiness any more?
As far as death they will scarcely come;
  Better for me to love the
      friend who will come,
  In death to to hold of me by the hand.

When I am going out from this world,
Shaking hands with utter death;
  Then who will help my weak soul,
  To climb up from the desert world?

From the dark land when I am going,
My Jesus, be my faithful friend!
  What brother, what sister,
      what better companion,
  Will escort me to the distant regions?

O remember me when I am in the grave,
And gather my dust up in peace;
  O own me in the coming judgment,
  And set me at thy right hand!

Farewell empty trinkets of the world,
And all the griefs
    which are in it altogether;
  Towards home I go
      despite water and fire,
  There is the sound of my brothers
      ahead of me.
 
- - - - -
Ni carai'r byd na'i wagedd mwy, Hyd angeu'n brin y deuant hwy; Gwell genni garu'r Ffrind a ddaw, Yn angeu i 'maflyd yn fy llaw.
tr. 2016,17 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~